Mae adfail diddorol o “Llanbedr” hen eglwys Sant Pedr, sy’n Adeilad Rhestredig Gradd II o’r drydedd ganrif ar ddeg, ar garreg y drws. Mae llwybr troed ati oddi ar ffordd Llandyrnog.
-
Offa’s Dyke Path
Gweithgareddau awyr agored – Mae Llanbedr Dyffryn Clwyd yn ganolbwynt gwych ar gyfer archwilio Bryniau Clwyd. Beth bynnag rydych chi’n ddewis ei wneud fe gewch chi brofiad o rinweddau arbennig yr ardal mewn awyrgylch diogel a hygyrch.
- Ffotograffiaeth ac Arlunio – beth am fod yn greadigol yn yr awyr agored? Mae llu o olygfeydd, byd natur a threftadaeth ddiwylliannol yn cynnig eu hunain ar gyfer camera, llyfr brasluniau neu ganfas – cofiwch am yr artist tirlun Prydeinig enwog, Richard Wilson, wnaeth anfarwoli tirluniau Loggerheads a Moel Famau yn ei waith.
- Paragleidio – mae safle rheoledig rhwng maes parcio Bwlch Pen Barras a Moel Famau yn darparu cyfleoedd paragleidio gwych i ymarferwyr profiadol. Rhaid cael trwydded yn gyntaf.
- Abseilio – yng Ngheunant y Diafol, hen chwarel mwyngloddio plwm rhwng Parc Gwledig Loggerheads a Chilcain. Mae darparwyr cymwysedig yn cynnig hyfforddiant ac offer ar gyfer profiad gwefreiddiol rhaffau a chraig.
- Helfa drysor ddaearyddol (‘geocaching’) – helfa drysor awyr agored am ddim. Mae’r chwaraewyr yn ceisio dod o hyd i gynwysyddion cudd gan ddefnyddio cliwiau a dderbynnir i’w ffôn symudol neu system lleoli daearyddol ac yna’n rhannu eu profiadau ar-lein. Cewch ddechrau trwy chwilio am y cynhwysydd yn Llanbedr.
- Llogwch yr astroturff yn Ysgol Llanbedr. Ar gael yn ystod y penwythnos, nosweithiau a gwyliau ysgol. Am ragor o wybodaeth neu i archebu, cysylltwch â Sian jones ar 0786 753 4402.
- Ewch am dro â picnic i weld hen Eglwys Sant Pedr. Am fwy o wybodaeth am yr hen Eglwys ewch i’r dudalen hanes.
- Ddiddanwch y plant gyda maes chwarae Ysgol Llanbedr. Mae croeso i chi ddefnyddio’r maes chwarae tu allan i oriau ysgol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gadael yr ardal fel yr ydych wedi dod o hyd iddo.
- Pysgota- Mae gan Bathafarn Hall ei bysgodfa ei hun sy’n cynnwys dau bwll wedi ei lenwi’n dda â carp, ysgretennod, merfog, pysgodyn rhudd a rhufell. Mae’r bysgodfa ar agor i’r cyhoedd ar sail tocyn diwrnod, drwy gydol y flwyddyn.
Gweithgareddau Eraill
- Defnyddio’r gampfa neu gyfleusterau sba yn y Vale Country Club. Edrychwch am ddosbarthiadau ymarfer corff sydd ar gael neu cewch sesiwn gyda hyfforddwr preifat. Gallwch hefyd gael pryd o fwyd neu goffi yma, wedi’ch amgylchynu mewn golygfeydd hardd o fryniau Clwyd.
- Galwch i mewn i’r Griffin am bryd o fwyd neu ddiod mewn awyrgylch glyd a chroesawgar. Mae’n dafarn pentref traddodiadol, yn gweini cwrw casgen, gwinoedd da, a bwyd cartref wedi ei goginio gan ddefnyddio cynhwysion lleol.
- Cymerwch ran mewn dosbarthiadau neu weithgareddau sydd ar gael yn neuadd y pentref.
- Anfonwch y plant i glwb gwyliau yn Munchkins yn Ysgol Llanbedr. Mae Munchkins yn gyfleuster gofal dydd i blant o oed 2, ar gael bob dydd o 8y.b. i 6y.h. Am fwy o wybodaeth neu i archebu ffoniwch 07901275415. Mae yna hefyd sesiwn Cylch Chwarae gydag thema, pob dydd Mercher 1-2:30 pm.
- Mae yna ysgol sul yn neuadd y pentref pob bore Sul am 11am, a gynhelir wasaenaethau yn Eglwys Llanbedr yn yr wythnos ac ar ddydd Sul. Ewch i wefan Llanbedr Parishes am fwy o bybodaeth.
[hr]
Ger Llanbedr
- Rhuthun – tref farchnad draddodiadol sydd wedi cadw ei chymeriad – ewch i ymweld â’r Ganolfan Grefft newydd, yr Hen Garchar a Nantclwyd y Dre – a mynd am dro i’r siopau annibynnol sy’n cynnig y gwasanaethau arferol.
- Yr Wyddgrug – sy’n enwog am ei Chlogyn Aur (mae copi ohoni yn yr Amgueddfa) a HYPERLINK “http://www.clwyd-theatr-cymru.co.uk” Theatr Clwyd. Cynhelir marchnad brysur yma bob dydd Mercher a dydd Gwener.
- Dinbych – yn dyddio yn ôl i’r unfed ganrif ar ddeg mae hen ganolbwynt sirol Sir Ddinbych yn adnabyddus am ei chastell a muriau’r dref, ac mae’n cynnwys amrywiaeth dda o siopau a chyfleusterau.
- Llanelwy – ewch i weld yr eglwys gadeiriol leiaf ym Mhrydain a chlywed chwedl Esgob Asaph, yr eog a’r fodrwy. Dyma ddinas ddiweddaraf Cymru.
- Traethau euraidd, gwynt y môr a holl hwyl y promenâd yn y Rhyl a Phrestatyn – nid nepell o amrywiaeth ragorol o siopau.
- Tirlun arfordirol a bywyd gwyllt godidog y twyni tywod yng Ngronant.
- Llangollen a Dyffryn Dyfrdwy – golygfeydd godidog, yn cynnwys abaty canoloesol Glyn y Groes a chastell Dinas Brân, trenau stêm, cychod camlas yn cael eu tynnu gan geffylau gwedd, yr Eisteddfod Gydwladol a Safle Treftadaeth y Byd dyfrbont Pontcysyllte.
Yn gymharol agos
- Mynyddoedd mawreddog Eryri neu diroedd gwyllt y Berwyn
- Cyfle i weld y ddwy Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol arall yng Ngogledd Cymru, Ynys Môn a Phenrhyn Llŷn
- Ewch i archwilio dinas Rufeinig Caer
- Croeswch yr Afon Merswy i ddinas Lerpwl, sy’n gartref i’r Liver Birds a’r Beatles
Cewch ragor o wybodaeth yn: www.northwalesborderlands.co.uk