Ymateb i gais cynllunio 2018 – 38 annedd
Ymateb Cyngor Cymuned Llanbedr DC i’r Cais Cynllunio: 16/2018/1137 – Codi 38 annedd, adeiladu mynediad newydd, darparu man agored a gwaith cysylltiedig ar dir ger yr Hen Reithordy, Llanbedr Dyffryn Clwyd, Rhuthun.
Annwyl Gynllunio,
Bydd y cynllun arfaethedig yn newid cymeriad y pentref a mi fydd y datblygiad newydd mwyaf yn y pentref ers blynyddoedd lawer. Mae’r Cyngor Cymuned yn nodi bod y safle wedi’i farcio i’w ddatblygu yn y Cynllun Lleol ac yn croesawu datblygiad y safle hwn ar gyfer tai fforddiadwy mewn egwyddor; bydd yn cynyddu bywiogrwydd a hyfywedd y pentref a’i fwynderau. Fodd bynnag, cymerodd y Cyngor Cymuned y cyfle i ddarparu adborth cyn-gais adeiladol ar y cynigion ac mae’n siomedig i weld bod ei sylwadau bron wedi cael eu anwybyddu bron yn gyfan gwbl. Ni wnaed unrhyw newidiadau positif i’r cynllun ac ni ddarparwyd cyfiawnhad ystyrlon am y methiant i wneud hynny, y tu hwnt i nodi bod y cynllun eisoes wedi’i gytuno gyda’r Cyngor Sir.
Mae Cyngor Cymuned Llanbedr Dyffryn Clwyd yn gwrthwynebu’r cais am y rhesymau a ganlyn:
1. Mae patrwm datblygu clir yn y pentref ar gyfer tai i wynebu’r ffordd. Rhaid ailgynllunio’r cynllun i gyflwyno blaen gref i’r ffordd bresennol, yn hytrach na corneli, pennau ac rhoi yno adeiladau cyfleustodau. Ni fydd y cynllun yn integreiddio gyda’r pentref trwy droi ei ochr ato, ac mae’r integreiddio hwn yn bwysicach ar gyfer tai fforddiadwy os mai’r nod yw creu cymunedau cymysg.
2. Dylai’r man agored cyhoeddus arfaethedig (MCA) gael ei integreiddio i’r datblygiad. Ni fydd lleoli y MCA yn y cefn yn annog gwyliadwriaeth naturiol ac mae’n ddyluniad gwael nad oedd wedi’i gyfiawnhau a dylid ei wrthod. Fel y dangosir, ymddengys bod lleoliad y MCA yn cael ei yrru gan linell ar gynllun yn hytrach na drwy ddylunio da, ac nid oes rheswm dylunio trefol cadarn i’w awgrymu fel arall. Byddai’n synhwyrol ystyried lleoli y MCA ar flaen y safle a gosod y tai yn ôl o’r ffordd, gan y byddai hyn yn adlewyrchu’r sefyllfa gyferbyn. Yr unig ddewis arall derbyniol fyddai lleoli y MCA yn ganolog yn y datblygiad.
3. Nid oes gan y pentref ardal chwarae ar hyn o bryd, felly i sicrhau bod gan drigolion newydd a phreswylwyr fynediad at gyfleusterau o’r fath, dylai’r man agored cyhoeddus gynnwys cyfleusterau hamdden ar gyfer pob oedran (e.e. ardal chwarae i blant). Nid oes cyfleusterau o’r fath yn y pentref ar hyn o bryd. Er gwaethaf yr hyn y mae’r ymgeisydd yn ei ddweud, nid oes unrhyw sicrwydd y bydd datblygiadau eraill yn gallu darparu ardal hamdden a cyfarpar chwarae yn y pentref.
4. Mae’r Cyngor Cymuned yn disgwyl i’r datblygiad gael ei dirweddu’n dda, gan gynnwys plannu coed a gwrychoedd newydd (rhywogaethau brodorol). Dylai’r ffiniau blaen gynnwys waliau cerrig a / neu wrychoedd i gyd-fynd â chymeriad lleol.
5. Mae’r Cyngor Cymuned yn falch o nodi y bydd y datblygwr yn ariannu rheolaeth ar fwynderau cyhoeddus a ddarperir yn y datblygiad arfaethedig.
6. Mae’r Cyngor Cymuned yn nodi bod Dwr Cymru Welsh Water wedi mynegi pryderon ynghylch agosrwydd y safle i’r gwaith trin carthffosiaeth, a rydym yn rhannu’r pryderon hyn. Ar hyn o bryd mae’r gwaith triniaeth yn cael ei sgrinio’n wael gan res o gonwydd. Hoffem weld ymdrechion i sgrinio’r gwaith o’r olygfa ac i sicrhau nad yw arogl yn effeithio’n ormodol ar drigolion.
7. Nid yw’r ffyrdd o gwmpas y safle, yn enwedig y rhai sy’n cysylltu’r safle i’r ysgol gynradd a neuadd y pentref, yn gyfeillgar i gerddwyr ac er bod croeso i ddarparu palmant ar hyd ffrynt y safle ni fydd hyn yn ddigonol i sicrhau mynediad diogel i gyfleusterau y pentref. Gall yr ysgol yn benodol dim ond cael ei gyrraedd trwy ffordd heb rwystr cyflymder. Er mwyn mynd i’r afael â’r broblem hon, byddai’r Cyngor Cymuned yn hoffi gweld ymdrechion i ddarparu palmant / troedffyrdd ychwanegol a / neu arafu traffig. Nodir bod yr ymgeisydd yn disgrifio’r ffordd fel ‘lle a rennir’ ond mae hyn yn afresymol. Nid yw absenoldeb syml o ddarpariaeth cerdded a beicio diogel yn gwneud lle ar y cyd.
Mae’r Cyngor Cymuned yn edrych ymlaen at weld gwelliannau sy’n mynd i’r afael â’r pryderon hyn ac yn croesawu’r cyfle i wneud sylwadau ymhellach ar y cam hwnnw.