Wheeler Homes – ymateb gan Gyngor Cymuned Llanbedr
At sylw:
matt@mattplan.com
The Planning Consultancy,
Bridge Farm,
Sarn,
Malpas,
Cheshire.
SY14 7LN
Ymgynghoriad cyn ymgeisio ar gynnig gan Wheeler Homes Cyf ar gyfer datblygiad preswyl rhwng Y Rheithordy a Brackendene, Llanbedr DC
– ymateb gan Gyngor Cymuned Llanbedr
Fe wnaeth y Cyngor Cymuned gyfarfod ddydd Llun 19 Gorffennaf i ystyried y cynnig. Daethpwyd i’r casgliad fod ynddo nifer o anawsterau fel y mae ar hyn o bryd, a bydd angen eu goresgyn cyn y gallwn ei gefnogi’n llawn. Yn bennaf mae llawer o’r materion hyn yn deillio o’r nifer o gartrefi a gynigir. Hoffem weld y nifer hwn yn cael ei leihau, a mwy o feddwl yn cael ei roi i amrywiad yn nyluniad y tai a’u lleoliad ar y safle, gan gynnwys tai un llawr/dormer, a datblygiad cymysg yn hytrach na rhesi syth. Yn gyffredinol, roedd y Cyngor eisiau herio sail yr adroddiadau rydych chi wedi’u comisiynu sy’n amlwg yn gogwyddo o blaid eich cynigion chi. Mewn nifer o achosion nid ydynt yn adlewyrchu profiad byw trigolion lleol.
Dyma restr o’n holl bryderon:
- Rydym wedi nodi pryderon preswylwyr, sef bod y trwch adeiladu yn golygu bod rhai o’r tai yn agos iawn at ffiniau’r safle, a fydd, oherwydd y cyfuchliniau, yn edrych dros y cartrefi presennol. Dylai lleihau’r trwch helpu i leddfu hyn.
- Rydym yn poeni’n arw parthed diogelwch y mynediad o’r A494 i’r datblygiad newydd arfaethedig. Er bod eich adroddiadau chi’n awgrymu bod y gwelededd yn dderbyniol ar gyfer traffig sy’n teithio ar y terfyn cyflymder ynghyd â 10mya, mae data Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru yn dangos bod 1 o bob 8 cerbyd yn teithio’n gyflymach na 37mya wrth fynd heibio’r man hwn. Mae 75% o drigolion y pentref yn poeni’n arw am y goryrru ar yr A494 ac ni allwn gefnogi’r datblygiad arfaethedig hwn oni bai bod sylw dyledus yn cael ei roi i’w pryderon.
- Rydym hefyd o’r farn bod y ffigyrau a ydych wedi’u cyflwyno am faint o draffig fyddai’r safle’n gynhyrchu yn tanamcangyfrif y sefyllfa debygol yn sylweddol.
Mae’r amcangyfrif o 8 siwrnai mynd a dod yn ystod oriau brys er engrhaifft yn ymddangos yn rhy isel o lawer. Cartrefi teulu yw’r rhain felly mae’n debygol y bydd gan y mwyafrif ddau gar. Mae’n debygol y bydd llawer yn mynd a dod i’r ysgol yn ogystal a chymudo’n rheolaidd unwaith os nad dwywaith o leiaf bob dydd.
- Realiti bywyd trigolion lleol yw nad yw Lon Cae Glas a strydoedd eraill y pentref yn ddiogel i gerddwyr. Nid oes palmentydd ar Lon Cae Glas ar hyn o bryd, gall traffig fod yn drwm wrth deithio at brydferthwch Maes Famau, mae ymylon y ffyrdd wedi gordyfu ac yn codi uwchlaw lefel y ffordd ac mae’r stribedi ‘rumble’ bron wedi gwisgo’n llwyr. Mae llawer o bobl yn cwyno fod ceir yn mynd heibio’n rhy agos ac yn rhy gyflym. Mae cerdded i Ruthun yn golygu cerdded ar hyd cefnffordd gyda cheir yn pasio ar gyflymder o 60mya, a chyflymach na hyn yn aml. Mae eich adroddiad yn rhoi darlun rhy wych o lawer o’r sefyllfa i gerddwyr, beicwyr, marchogion ac eraill. Nid oes man croesi diogel ar yr A494.
- Rydym angen sicrwydd bod cynllun draenio addas ar waith, yn enwedig ar gyfer dŵr ffo ar y gefnffordd gan ystyried defnyddio arwynebau hydraidd.
Mae angen mynd i’r afael yn iawn ag osgoi llifogydd lleol, gan fod hyn wedi digwydd ar waelod Lon Cae Glas yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Nid ydym fel Cyngor yn gweld fod unrhyw wybodaeth wedi’i chynnwys am y risg amlwg o gael nant agored yn rhedeg trwy’r safle a ffos agored sy’n cymryd y gorlif o’r nant, – dau beth fyddai’n gallu bod yn beryglus iawn i blant.
- Rydym yn poeni am gyfanrwydd strwythurol y safle. Mae’r grib galchfaen yn fregus, gyda cherrig yn disgyn yn rheolaidd ar dai islaw. Byddem am weld adroddiad peirianneg strwythurol ac arolwg daearegol llawn, yn cwmpasu’r adeiladu a sefydlogrwydd parhaus y safle ac eiddo cyfagos, gan ystyried y ffaith bod eiddo yn Lon Cae Glas yn llawer is na chynllun y datblygiad. Yn Brackendene mae cwymp 20 metr i lawr wyneb chwarel segur i’r eiddo islaw.
- Gofynnwn i asesiad archeolegol gael ei gwblhau cyn bwrw ymlaen.
- Mae preswylwyr yn dweud bod llawer o weithgaredd bywyd gwyllt ar y safle, gan gynnwys ystlumod a moch daear, felly bydd angen i chi sicrhau bod asesiad bywyd gwyllt cywir yn cael ei gwblhau.
- Rydym yn pryderu nad oes unman i ymwelwyr barcio wrth y man chwarae (gweler ein sylwadau cynharach nad yw preswylwyr yn teimlo’n ddiogel wrth gerdded ar hyd ffyrdd lleol). Gofynnwn ichi fynd i’r afael â hyn cyn symud ymlaen â’r cynllunio – a dylid cynnwys darpariaeth ar gyfer ymwelwyr anabl hefyd.
10. Mae man chwarae yn hanfodolfel rhan o’r caniatâd cynllunio, ond nid ydym yn credu fod y lle a ddyrennir ar ei gyfer yn ddigonol. Hoffem gael ardal chwarae fwy, ynghyd â “man gwyrdd cymunedol” gydag amrywiaeth o adnoddau ar gyfer pob oedran (e.e. myfyrio, ymlacio) gan gynnwys perllan gymunedol fach a man picnic yn ogystal â’r ardal chwarae.
11. Rydym yn falch iawn eich bod yn gallu creu rhodfa ddiogel o’r fynwent i ffordd fynediad y safle. Hoffem weld y droedffordd hon yn parhau ochr arall y ffordd fynediad gan ddod allan yn Lon Cae Glas (mae giât yno’n barod). Rydym hefyd am dynnu eich sylw at y cais gan y tri chartref ar Ffordd y Rheithordy i godi rhwystr addas i gadw cerddwyr o’r datblygiad newydd. Byddai hyn hefyd o fudd i’r tai newydd, drwy wneud i bobl gerdded o gwmpas Llanbedr ac ar hyd llwybr newydd y fynwent.
Mae’r Cyngor Cymuned yn awyddus i weithio gyda Wheeler Homes, y tirfeddianwyr a rhanddeiliaid eraill i ddod o hyd i ateb i’r holl faterion hyn, a chyflawni datblygiad sy’n diwallu anghenion preswylwyr presennol yn ogystal â rhai newydd. Os hoffech chi gwrdd i drafod y materion hyn yn fwy manwl, byddem yn hapus iawn i wneud hynny.
Tim Baker
Cadeirydd
Cyngor Cymuned Llanbedr DC