Mae Llanbedr DC yn lle gwych i ddechrau ymweld â Bryniau Clwyd. Beth bynnag y dewiswch ei wneud, byddwch yn profi rhinweddau arbennig yr ardal hon mewn amgylchedd diogel a hygyrch.
Llogi’r astroturf yn Ysgol Llanbedr. Ar gael ar benwythnosau, gyda’r nos ac unrhyw adeg yn ystod gwyliau ysgol.
Ffotograffiaeth ac Arlunio – beth am fod yn greadigol yn yr awyr agored? Mae llu o olygfeydd, byd natur a threftadaeth ddiwylliannol yn cynnig eu hunain ar gyfer camera, llyfr brasluniau neu ganfas – cofiwch am yr artist tirlun Prydeinig enwog, Richard Wilson, wnaeth anfarwoli tirluniau Loggerheads a Moel Famau yn ei waith.
Abseilio – yng Ngheunant y Diafol, hen chwarel mwyngloddio plwm rhwng Parc Gwledig Loggerheads a Chilcain. Mae darparwyr cymwysedig yn cynnig hyfforddiant ac offer ar gyfer profiad gwefreiddiol rhaffau a chraig.
Llogi’r astroturf yn Ysgol Llanbedr. Ar gael ar benwythnosau, gyda’r nos ac unrhyw adeg yn ystod gwyliau ysgol. Am ragor o wybodaeth neu i archebu, cysylltwch â Sian jones ar 0786 753 4402.
Ddiddanwch y plant ym maes chwarae Ysgol Llanbedr. Mae croeso i chi ddefnyddio’r maes chwarae tu allan i oriau ysgol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gadael y maes chwarae yn union fel yr oedd pan gyrhaeddoch.
Pysgota– Mae gan Neuadd Bathafarn ei physgodfa ei hun sy’n cynnwys dau bwll wedi eu llenwi’n dda â charp, ysgretennod, merfog, rhuddgoch a rhufell. Mae’r bysgodfa ar agor i’r cyhoedd ar sail tocyn diwrnod, drwy gydol y flwyddyn.
Ceir taflenni gweithgaredd o’r Hen Lys, Rhuthun
Gweithgareddau Eraill
Mae Neuadd y Pentref yn ganolbwynt ffyniannus ar gyfer gweithgareddau a digwyddiadau.
Galwch heibio Tafarn y Griffin am bryd o fwyd a diod mewn awyrgylch clyd a chroesawgar. Tafarn bentref draddodiadol gyda gardd gwrw, lle gweinir bwyd wedi’i goginio gartref gan ddefnyddio cynhwysion lleol. Mae’r dafarn yn cynnig gwely a brecwast hefyd .
Eglwys Sant Pedr, eglwys yn perthyn i’r Eglwys yng Nghymru, gyda gwasanaeth pob Sul fel arfer.
Anfonwch y plant i glwb gwyliau’r Munchkins yn Ysgol Llanbedr. Mae Munchkins yn gyfleuster gofal dydd i blant o 2 oed, ar gael bob dydd o 8y.b. tan 6y.h. Am fwy o wybodaeth neu i archebu ffoniwch 07901275415. Mae yna hefyd sesiwn Cylch Chwarae gyda thema, pob dydd Mercher 1-2:30 y prynhawn. munchkinsllanbedr@yahoo.co.uk.
Rhuthun – tref farchnad draddodiadol sydd wedi cadw ei chymeriad – ewch i ymweld â’r Ganolfan Grefft newydd, yr Hen Garchar a Nantclwyd y Dre – a mynd am dro i’r siopau annibynnol sy’n cynnig y gwasanaethau arferol.
Yr Wyddgrug – sy’n enwog am ei Chlogyn Aur (mae copi ohoni yn yr Amgueddfa) a Theatr Clwyd. Cynhelir marchnad brysur yma bob dydd Mercher a dydd Gwener.
Dinbych – yn dyddio yn ôl i’r unfed ganrif ar ddeg mae hen ganolbwynt sirol Sir Ddinbych yn adnabyddus am ei chastell a muriau’r dref, ac mae’n cynnwys amrywiaeth dda o siopau a chyfleusterau.
Llanelwy – ewch i weld yr eglwys gadeiriol leiaf ym Mhrydain a chlywed chwedl Esgob Asaph, yr eog a’r fodrwy. Dyma ddinas ddiweddaraf Cymru.
Tirlun arfordirol a bywyd gwyllt godidog y twyni tywod yng Ngronant.
Llangollen a Dyffryn Dyfrdwy – golygfeydd godidog, yn cynnwys abaty canoloesol Glyn y Groes a chastell Dinas Brân, trenau stêm, cychod camlas yn cael eu tynnu gan geffylau gwedd, yr Eisteddfod Gydwladol a Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr Pontcysyllte.
Rydym yn defnyddio cwcis i sicrhau ein bod yn rhoi'r profiad gorau i chi ar ein gwefan. Os ydych chi'n parhau i ddefnyddio'r wefan hon, byddwn yn tybio eich bod yn hapus â hwn.Iawn