Mae Neuadd y Pentref ar agor pob dydd a gyda’r nos fel arfer ac mae yma lawer o grwpiau ffyniannus yn y pentref, – yn cynnwys, er enghraifft, pilates, karate, jiwdo, tenis bwrdd, dawnsio o’r Alban a chrefftau.
Mae Neuadd y Pentref ar agor pob dydd a gyda’r nos fel arfer ac mae yma lawer o grwpiau ffyniannus yn y pentref, – yn cynnwys, er enghraifft, pilates, karate, jiwdo, tenis bwrdd, dawnsio o’r Alban a chrefftau.
Archebion Preifat
Gallwch archebu Neuadd y Pentref ar gyfer defnydd preifat. Mae ynddi gyfleusterau cegin, toiledau, byrddau a chadeiriau, a digonedd o le. Mae’n ddelfrydol ar gyfer partïon pen-blwydd i blant, dim ond i chi ddod a’ch adloniant eich hun.
Mae gan y Neuadd ei gwefan ei hun. Os am archebu, cysylltwch â’r gofalwr, Ron Bell: Rhif ffôn 07967 969812 neu ewch i wefan Neuadd y Pentref.
Bellach mae gan Neuadd Pentref Llanbedr yr eitemau isod fel rhan o’r prosiect Carbon Niwtral:
Erbyn hyn mae cyfanswm o 22 o baneli solar 4kW i gynhyrchu trydan ar y to sy’n wynebu’r de. Bydd y Tariff Cyflenwi Trydan o’r rhain yn dod ag incwm i’r Neuadd am flynyddoedd i ddod.
Dyma beth oedd gan y Denbighshire Free Press i’w ddweud yn 2013:
Mae gan bentref yn Sir Ddinbych y neuadd bentref mwyaf eco gyfeillgar yng Nghymru wrth iddo arwain y ffordd mewn chwyldro gwyrdd newydd – a gwneud yn siwr ei fod yn curo prisiau ynni cynyddol i barhau ar agor. Gall y tywydd y tu allan fod yn ofnadwy, ond bydd naws gynnes y tu mewn i neuadd y pentref yn Llanbedr DC bob amser.
Mae hynny o ganlyniad i raglen sylweddol gwerth £45,000 a ysgogwyd gan y Cyngor Cymuned ac a arweiniwyd gan yr arbenigwyr ynni adnewyddadwy Carbon Zero UK o Lanelwy.
Erbyn hyn gwresogir y Neuadd gyda gwres ffynhonnell aer sy’n cael ei bweru’n rhannol gan baneli solar ar y to. Defnyddir y to hefyd i gasglu dŵr glaw mewn tanc mawr sydd wedyn yn cyflenwi dŵr ar gyfer toiledau’r Neuadd, – 50,000 litr o ddŵr y flwyddyn, sy’n caniatáu dros 7000 o fflysiau’r flwyddyn neu 142 yr wythnos.
Mae llofft y Neuadd wedi’i insiwleiddio hefyd, ac mae drysau a ffenestri newydd wedi’u gosod i’w gwneud hi’n fwy effeithlon fyth i’w rhedeg. Daeth y cyllid o Gyngor Sir Dinbych, Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych ac o’r Gronfa Allweddol Wledig yn ogystal â’r Cyngor Cymuned.
Yn ogystal â’r gwaith a amlinellwyd uchod, gwnaed rhai gwelliannau mwy diweddar i’r Neuadd hefyd. Ewch i ‘gwefan Neuadd y Pentref’/ wefan Neuadd y Pentref am fwy o wybodaeth, a chewch ddarllen am hanes y Neuadd, archebu, cymryd rhan mewn gweithgaredd neu hyd yn oed gychwyn eich grŵp eich hunain.