lle gorau i fyw !
Mae’r Cyngor Cymuned yn gofalu am Hen Fynwent Eglwys San Pedr ar y cyd gyda’r Eglwys yng Nghymru, gan fod y naill a’r llall yn ystyried bod ei lle yn hanes cymdeithasol Llanbedr yn werth ei gadw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Mae gan y Cyngor grŵp ymroddedig o wirfoddolwyr sy’n torri’r glaswellt yn y fynwent yn rheolaidd. Rhan o’r cynllun rheoli yw gadael 60% o’r fynwent i dyfu’n wyllt, gan hybu tyfiant blodau gwyllt. Mae hyn hefyd yn lleihau faint o amser sydd ei angen ar wirfoddolwyr i dorri’r glaswellt. Bob hydref mae’r fynwent gyfan yn cael ei thorri a’r holl lystyfiant yn cael ei gasglu. Dros amser bydd hyn yn lleihau lefelau’r maetholion yn y pridd, fydd yn helpu blodau gwyllt i gystadlu â’r glaswelltiroedd mwy ymosodol.
Unwaith y flwyddyn mae pensaer yr Eglwys yng Nghymru’n ymweld â’r fynwent i asesu strwythur yr adeilad yn ogystal â monitro cynnydd y cynlluniau rheoli. Rhan o’r cytundeb anffurfiol gyda’r Eglwys yng Nghymru yw, os oes rhannau o’r strwythur yn dechrau dangos traul oherwydd y tywydd, y cymerir camau i unioni’r difrod cyn i’r broblem dyfu. Mae hyn yn golygu bod angen datblygu cynllun gweithredu a chael cyllid, ond os ymdrechwn yn ddigon caled, byddwn yn llwyddo i ddod o hyd i’r arian.
Er mwyn paratoi ar gyfer ymweliad y pensaer, mae’r fynwent wedi’i thorri, ei chwynnu a’i glanhau, y dodrefn wedi’u staenio, y gatiau wedi’u paentio, a’r grisiau a’r llwybrau wedi’u clirio. Gweler y lluniau isod. Bydd y pensaer yn dod draw ar ddydd Gwener 2 Awst, gan gyflwyno ei adroddiad yn fuan ar ôl hynny.
Dewch bawb sy’n darllen yr adroddiad hwn i weld y llecyn hardd hwn o hanes cymdeithasol, sy’n digwydd bod wedi’i leoli yn y lle gorau i fyw yng Ngogledd Cymru!!