Gyda’i leoliad ynghanol AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, mae pentref Llanbedr DC yn le gwych ar gyfer y trigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd.
Mae cymuned lewyrchus yma yn y pentref. Ymhlith y cyfleusterau mae Eglwys San Pedr, Tafarn y Griffin, Ysgol Gynradd Llanbedr a Neuadd y Pentref brysur iawn.
Dim ond milltir o Lanbedr DC mae tref farchnad hanesyddol Rhuthun gyda’i hanes yn ymestyn yn ôl 700 mlynedd, ei siopau a’i hatyniadau niferus. Ymhlith y trefi hanesyddol eraill gerllaw mae Caer i’r dwyrain, a Llangollen i’r de, a gellir mwynhau’r daith drwy harddwch Bwlch yr Oernant i fynd yno. Ac ychydig i’r gogledd mae trefi a thraethau arfordirol Gogledd Cymru.
I’r dwyrain, yn union ar gyrion y pentref ac yn edrych i lawr arnom, mae Moel Famau, sef yr uchaf o Fryniau Clwyd. Gellir ymweld â Pharc Gwledig Loggerheads a cherdded llwybrau niferus yr ardal, gan gynnwys llwybr enwog Clawdd Offa. Mae yma hefyd lawer o lwybrau heriol sy’n boblogaidd iawn ymysg beicwyr egnïol.
Ar rostir ucheldir Bryniau Clwyd mae grug, llus, eithin a rhedyn yn tyfu. Dyma gynefin pwysig iawn ar gyfer bywyd gwyllt, gan gynnwys y rugiar ddu (aderyn prin), y rugiar goch, y boda tinwyn, mwyalchen y mynydd, crec yr eithin a thinwen y garn. Ac ar y copaon, mae yna gadwyn eithriadol o fryngaerau o Oes yr Haearn. Mae’r cyfuniad yma o’r ddwy dreftadaeth, – sef y naturiol a’r hanesyddol – ym Mryniau Clwyd yn creu tirwedd wirioneddol unigryw, a werthfawrogir yn arw am ei harddwch, ei bywyd gwyllt a’i harcheoleg.
Un o fannau harddaf y pentref yw adfeilion Hen Eglwys San Pedr. Diolch i waith y Cyngor Cymuned a chyllid hael gan yr Eglwys yng Nghymru ac eraill, mae llawer o waith cadwriaethol wedi’i wneud ar y safle hon. Cliciwch yma os am wybod mwy am Hen Eglwys San Pedr.