Dydd Llun 19 Rhagfyr 2022
Roedd cinio Nadolig eleni a drefnwyd gan y cyngor cymuned yn llwyddiant ysgubol. Mwynhawyd y bwyd o dwrci, cig eidion, neu lysieuol ac yna crymbl afal yna te / coffi / mints gan bawb. Diolch i’r holl wirfoddolwyr a fu’n helpu a diolch arbennig i Ann Jones am wneud yr arlwyo a Geraint Woolford a ddarparodd ganeuon yr ŵyl.