Datganiad newyddion gan Gyngor Sir Ddinbych
Yn ystod yr wythnosau nesaf bydd y Cyngor yn profi gwefan newydd sbon danlli.
Mae’r wefan wedi’i hail-ddylunio’n gyfan gwbl i fodloni gofynion y Ddeddf Cydraddoldeb, sy’n disgwyl i bob sefydliad sector cyhoeddus fod â gwefan hygyrch erbyn mis Medi 2020. Mae gwneud gwefan yn hygyrch yn golygu bod modd iddi gael ei defnyddio gan bobl â nam ar y golwg, anawsterau echddygol, anableddau dysgu, byddardod a nam ar y clyw.
Mae’r wefan brawf yn edrych ac yn teimlo’n wahanol iawn i’r wefan bresennol. Mae ganddi ddyluniad clir a syml; dylai bod y testun yn haws i’w ddarllen o ran ffont, lliw a chyferbynnedd; a dylai’r iaith hefyd fod yn haws i’w deall. Mae’r wefan hefyd wedi’i dylunio er mwyn galluogi pobl i’w defnyddio ar gymaint o ddyfeisiau digidol â phosibl.
Mae’r wefan yn llwyfan allweddol i’r Cyngor ddarparu cyngor a gwybodaeth i’r cyhoedd, sydd ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.
Dywedodd y Cynghorydd Richard Mainon, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Gwasanaethau Corfforaethol a Chyfeiriad Strategol: “Mae’r Cyngor yn canolbwyntio ar ddarparu mwy o wasanaethau ar-lein a chaniatáu i gwsmeriaid ddefnyddio’r wefan i dderbyn amrywiaeth eang o wybodaeth am wasanaethau’r Cyngor, yn ogystal â chofrestru a thalu am bethau, a chymryd rhan mewn ymgynghoriadau. Rydym ni bob tro yn chwilio am ffyrdd i wella ein gwasanaethau ar-lein ac mae’r newid diweddaraf yma yn y gyfraith yn gyfle da i ni ailwampio’r wefan, gan wneud yn siŵr ei bod yn cydymffurfio’n llawn â’r canllawiau ar hygyrchedd.
“Rydym ni wedi canolbwyntio’n bennaf ar wneud yr wybodaeth mor hawdd â phosibl i’w deall a’r wefan mor hawdd â phosibl i’w defnyddio. Rydym ni’n credu ein bod ni wedi creu gwefan gydag edrychiad a theimlad ffres, ac rydym ni’n wir yn gobeithio y bydd ymwelwyr i’n gwefan yn rhoi sêl bendith arni.
Rydym wedi profi’r wefan yn fewnol a’r Ganolfan Hygyrchedd Anableddau.
“Mae adborth yn bwysig iawn i ni ac rydym ni’n annog pawb i gysylltu drwy’r ffurflen adborth a rhannu eu sylwadau.
“Mae’r wefan newydd sbon ar gael drwy ddilyn y ddolen ganlynol: www.sirddinbych.gov.uk
Mae llawer o wybodaeth wedi’i rhoi ar y fersiwn newydd, ond os ydych chi’n ymweld â’r safle ac yn chwilio am rywbeth sydd heb ei ychwanegu eto byddwch yn cael eich trosglwyddo yn ôl i’r wefan bresennol.
Yn amodol ar adborth ac unrhyw newid angenrheidiol, bydd y wefan newydd sbon yn mynd yn fyw ym mis Medi. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael yn nes at yr amser.