Cystadlaethau Jiwbilî Llanbedr
Cystadlaethau Jiwbilî Llanbedr
Dydd Sadwrn 4ydd Mehefin
Llanbedr Community Hall
Cystadleuaeth Gwneud Cacennau……………… ar Thema’r Jiwbilî
Hyd at 11 oed : Detholiad o 6 cacen fach wedi’u haddurno
Rhwng 12 ac 16 oed: Detholiad o 10 cacen fach neu 1 cacen fawr wedi’u haddurno
17 oed a hŷn : Cacen fawr wedi’i haddurno neu 1 pwdin ffansi
Rhaid mynd â’r cynigion i’r Neuadd Gymunedol rhwng 10 a 10.30 bore Sadwrn 4ydd Mehefin.A bydd rhaid eu casglu cyn 4 y prynhawn. (Y gobaith yw y caiff y cacennau hyn eu defnyddio gan deuluoedd yn eu dathliadau cartref/stryd ar y Sul).
Gwobrau i enillydd pob adran….Tystysgrif ynghyd â photel o siampên/Prosecco neu docyn llyfr. Marina fydd yn beirniadu’r gystadleuaeth a bydd enillwyr pob adran yn cael eu harddangos yn y neuadd yn ystod y prynhawn cacennau a choffi.
Cystadleuaeth Gwneud Fflagiau……………… ar Thema’r Jiwbilî
Gellir defnyddio unrhyw gyfrwng i wneud y “fflagiau”, – papur, cardbord, deunydd ac ati – ond rhaid iddyn nhw fod â dwy ochr ac o leiaf maint A4. Rhaid i’r fflag fod yn sownd ar bolyn/cansen/darn hir o bren tua 36” (90 centimedr) o hyd.
Rhaid mynd â’r cynigion i’r Neuadd Gymunedol rhwng 10 a 10.30 bore Gwener 3ydd Mehefin, ac ar ôl y beirniadu byddant yn cael eu gosod yn yr ardd lechi am weddill penwythnos y Jiwbilî.
Bydd yna 3 adran yn seiliedig ar oedran:
Hyd at 11 oed, rhwng 12 ac 16, ac 17 a hŷn !
Gwobrau i enillydd pob adran….Tystysgrif ynghyd â photel o siampên/Prosecco neu docyn llyfr. Gwyn Williams fydd yn beirniadu’r gystadleuaeth.