• English
  • Cymraeg
Cyngor Cymuned Llanbedr Dyffryn Clwyd
  • Hafan
  • Cyngor
    • Cynghorwyr
    • Cyfarfodydd y Cyngor
  • Llanbedr
    • Mapiau
    • Neuadd y Pentref
    • Hanes
    • Dolenni Defnyddiol
    • Pethau i wneud
  • Galeri
  • Cysylltu â ni
Cyngor Cymuned Llanbedr
  • Cysylltwch â ni
  • Beth yw swydd Cynghorydd?
Gwyn Davies

Gofynnir i chi gyflwyno materion ffurfiol sydd i’w hystyried gan y Cyngor trwy’r Clerc, er mwyn sicrhau bod gweithdrefnau cywir yn cael eu dilyn.

Gellir cysylltu â chlerc Cyngor Cymuned Llanbedr, Gwyn Davies, drwy e-bost gan ddefnyddio’r ffurflen gyswllt.

Mr Gwyn Davies
Clerc y Cyngor
11 Maes Caenog
Clocaenog
Rhuthun
LL15 2AU

Rhifau ffôn: 01824 750283 neu 07887 955613

Mae tair elfen i waith Cynghorydd:

  1. Gwneud penderfyniadau – Drwy fynychu cyfarfodydd a phwyllgorau gydag aelodau etholedig eraill, mae Cynghorwyr yn penderfynu pa weithgareddau y dylid eu cefnogi, ar beth y dylid gwario arian, pa wasanaethau y dylid eu cyflenwi a pha bolisïau y dylid eu gweithredu.
  2. Monitro – Mae Cynghorwyr yn sicrhau bod eu penderfyniadau’n arwain at wasanaethau effeithlon ac effeithiol drwy gadw golwg ar ba mor dda y mae pethau’n gweithio.
  3. Cymryd rhan yn lleol – Gan eu bod yn cynrychioli’r gymuned, mae gan gynghorwyr ddyletswyddau tuag at eu hetholwyr ac at sefydliadau lleol.

Yn aml, mae’r cyfrifoldebau a’r dyletswyddau yma’n ddibynnol ar beth mae’r cynghorydd eisiau ei gyflawni a faint o amser sydd ganddo. Gallant gynnwys:

  • Mynychu cyfarfodydd sefydliadau lleol megis cymdeithasau tenantiaid.
  • Mynychu cyfarfodydd cyrff sy’n effeithio ar y gymuned ehangach.
  • Ymgymryd â materion ar ran aelodau’r cyhoedd.
  • Cynnal cymhorthfa lle gall preswylwyr godi materion.
  • Cyfarfod â thrigolion yn eu cartrefi eu hunain.

Mynychu cyfarfod o’r cyngor yw’r ffordd orau i weld beth sy’n digwydd yno. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn mynychu cyfarfod, beth am ffonio’r Clerc er mwyn darganfod pryd fydd yr un nesaf?

Faint o amser mae’n gymryd?

Dywed cynghorwyr ran amlaf mai tua teirawr yr wythnos mae eu dyletswyddau’n cymryd. Mae rhai’n amlwg yn treulio mwy o amser na hyn, ac eraill yn treulio llai. Ond ar y cyfan, mae gwasanaethu eich cymuned drwy fod yn gynghorydd yn beth dymunol iawn, gan eich bod yn helpu i’w gwneud yn lle gwell i fyw a gweithio ynddi.

Eich Cynghorwyr
Tim Baker

Cadeirydd

Rwy’n gyfarwyddwr theatr ac awdur yn gweithio ar fy liwt fy hun drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Roeddwn yn Gyfarwyddwr Cyswllt yn Theatr Clwyd am ddwy flynedd ar bymtheg. Symudais i Lanbedr o’r Wyddgrug i fyw yn 2009, a deuthum ar y cyngor cymuned pum mlynedd yn ddiweddarach. Ar hyn o bryd, fi yw Is-gadeirydd y Cyngor. Rwy’n angerddol am ddod â phobl ynghyd fel cymuned falch a chreadigol ac am wella mwynderau’r pentref.
Dave Ritchie

Cynghorydd

Fe wnaeth fy ngwraig Rachel, Hannah’r ferch a minnau symud i Lanbedr DC yn 2017. Ar ôl ymweld â’r ardal lawer gwaith dros y blynyddoedd, fe wnaethon ni syrthio mewn cariad â‘r lle hardd hwn ac o’r diwedd penderfynu ar y Mudo Mawr. Cyn hynny, bûm yn gweithio i gyngor lleol am wyth mlynedd ar hugain yn yr adran Parciau, yn rheoli prosiectau tirwedd ac adnewyddu adeiladau. Mae gen i brofiad adeiladu cyffredinol hefyd, gan i mi fod berchen cwmni adnewyddu tai. Mae fy ngwraig a minnau’n awyddus iawn i gymryd rhan a helpu cymuned leol y pentref rhagorol hwn cymaint ag y gallwn.
Nick Smith

Cynghorydd

Rwy’n byw yn Willowbank Cottage, rhwng Llanbedr a Hirwaen, ers 2007, ac rwy’n gynghorydd cymuned ers 2017. Rwyf yn gweithio ym maes Cynllunio Gwlad a Threfers 2001. Rwy’n gobeithio cefnogi cyfleusterau a busnesau’r pentref i ffynnu a helpu ein cymuned i barhau i fod yn lle deniadol a hanfodol i fyw ynddo.
Jackie Holder

Is-cadeirydd

Symudais i Lanbedr ddwy flynedd yn ôl, ar ôl bod awydd dod i fyw’n agosach at fy nheulu ers blynyddoedd. Rwy’n byw yn Tan y Bryn gyda’m mab hynaf a’i ddyweddi, ac mae’n fraint cael byw yn y pentref hyfryd hwn. Rwyf wedi ymddeol erbyn hyn, ar ôl 30 mlynedd gyda’r Heddlu, ac yna bûm yn derbyn galwadau 111 ac yn gynrychiolydd Unison gyda’r Gwasanaeth Ambiwlans de canolog am 7 mlynedd. Rwyf wedi canu mewn amryw o fandiau dros y blynyddoedd, ac rwy’n mwynhau gwylio Rygbi’r Undeb a chrwydro’n cefn gwlad gwych. Rwy’n credu’n gryf fod bywyd pentref a chymuned gref yn bethau gwerthfawr, ac rwyf eisiau helpu i barhau â’
r gwaith o wneud i bob preswyliwr, beth bynnag ei oedran, deimlo ei fod yn perthyn ac yn cael ei werthfawrogi yn ein pentref.
Jackie Bird

Cynghorydd

Hyd yn ddiweddar, roeddwn i mewn swydd reoli mewn Ysgol Uwchradd arbennig, ond rydw i bellach yn Ymgynghorydd Mathemateg ar fy liwt fy hun yn gweithio ledled y wlad. Ar ôl byw yn ardal yr Wyddgrug am 33 mlynedd, symudais i Lôn Cae Glas gyda’m ngŵr yn 2017 a deuthum yn gynghorydd cymuned yn gynnar yn 2018. Rwy’n credu’n angerddol mewn annog pob grŵp oedran i gredu mai nhw sydd berchen eu cymuned, trwy annog cyfathrebu, cyfranogi a chefnogaeth lle bo angen.
Lyn Evans

Cynghorydd

Mi ddois i a’m diweddar wraig a’r mab hynaf i fyw yn Tan y Bryn ym 1984, ac yma y ganwyd ein hail fab. Darlithydd (Rheoli a Marchnata Fferm) oeddwn i i ddechrau, ac yna bûm yn gweithio am 31 mlynedd yn y Diwydiant Cig. Fe wnes i ymddeol 14 mlynedd yn ôl, a thra’r oeddwn yn aros i’m gwraig ymddeol, penderfynais ddechrau adeiladu tai. Rwy’n dweud wrth fy hun bob dydd mai braint yw cael byw yn Llanbedr.
Ian Lloyd Williams

Cynghorydd

Deuthum i a’m gwraig Nicola i fyw yn y pentref ychydig flynyddoedd yn ôl, ar ôl syrthio mewn cariad â’r ardal pan oeddem yn byw yng Nghaer. Mae’r ddau ohonom yn awyddus i gymryd rhan mewn gweithgareddau yn y pentref ac i wneud yr hyn a allwn i helpu ein cymuned i ffynnu. Rwy’n arwain y tîm cyfathrebu ar gyfer darparwr cyngor ar ddyledion yn rhad ac am ddim – y dyddiau hyn yn gweithio gartref yn bennaf! Rwy’n forwr a beiciwr brwd, ond yn amlach na pheidio fe welwch Nicola a minnau’n cerdded o amgylch y lonydd a’r llwybrau lleol gyda’n Labradoodle, Miffy.
Jonathan Latham

Cynghorydd

Rwy’n gweithio fel rheolwr caffael ar gyfer cwmni rhyngwladol ac yn dilyn gyrfa yn y diwydiant gwneud papur ers nifer o flynyddoedd. Gan fy mod yn feiciwr a cherddwr brwd, rwy’n teimlo mai braint yw cael byw gyda’m gwraig Susan ym mhentref hardd Llanbedr Dyffryn Clwyd. Fel cynrychiolydd newydd ei ethol ar y Cyngor, rwy’n edrych ymlaen at gael cefnogi ein cymuned, cymryd rhan mewn prosiectau lleol a bod yn aelod gweithgar o’n pentref.

Swyddi diweddar

  • Dydd Sadwrn 6ed Mehefin “Hwyl y Jiwbi

    Mai 16, 20220

  • Cystadlaethau Jiwbilî Llanbedr

    Mai 16, 20220

  • “Ceilidh y Jiwbilî “

    Mai 16, 20220

  • Digwyddiad am ddim

    Mai 16, 20220

Cysylltu

Mr Gwyn Davies
Clerk to the Council
11 Maes Caenog
Clocaenog
Ruthin
LL15 2AU
01824 750283 or 07887 955613

Copyright © Llanbedr DC. All Rights Reserved.

  • Hafan
  • Cyngor
  • Llanbedr
  • Galeri
  • Cysylltu â ni