Cyngor Cymuned Llanbedr
Mae Cyngor Cymuned Llanbedr yn cyfarfod ar ddydd Llun cyntaf pob mis yn Neuadd Bentref Llanbedr am 7.30 y.h. (gan eithrio mis Awst pan nad oes cyfarfod). Os ydych am fynychu cyfarfod o’r Cyngor (er mwyn cael gweld beth sy’n digwydd tu ôl i’r llenni), mae croeso i chi ddod i unrhyw un o’r cyfarfodydd sydd wedi’u hamserlennu. Efallai bod gennych bwnc penodol i’w drafod? Os oes gennych, yna byddai’n ddefnyddiol pe byddech yn cysylltu â ni yn gyntaf ar y dudalen Cysylltu fel y gellir cynnwys eitem ar agenda cyfarfod sydd i ddod.