Cychlythyr Llanbedr
Rydyn ni yn awyddus i wneud cylchlythyr Llanbedr yn bersonol i bawb yn y gymuned felly bwriadwn gynnwys ychydig o eitemau newydd yn y llyfryn, sef: hysbysiadau personol gan gynnwys rhestr o enwau, penblwyddi ac oedrannau (pan gytunir !!) dros y pedwar mis nesaf (Hydref-Ionawr) priodasau, bedyddiadau, genedigaethau, unrhyw beth y dylid ei ddathlu i unrhyw un lleol. Oherwydd bod y nodwedd hon yn ychwanegiad newydd, rydym yn hapus i gynnwys digwyddiadau yn y gorffennol (dros yr haf) yn ogystal ag unrhyw beth sydd wedi’i gynllunio ar gyfer y 4 mis nesaf.
Rydyn ni yn awyddus i gynnwys pobl yn symud i mewn neu allan o’r pentref, yn eu croesawu neu’n ffarwelio.
Os hoffech gynnwys “digwyddiad arbennig” unrhyw un yn y rhifyn nesaf, danfonnwch y wybodaeth erbyn Hydref 16eg fan bellaf, at: Tim Baker, golygydd – baker.eames@virgin.net
Roeddem hefyd o’r farn y gallai cyfleuster “Freecycle” lleol fod yn ddefnyddiol. Os oes gan unrhyw un unrhyw beth nad ydyn nhw ei eisiau neu ei angen ac yn barod i’w roi i berson lleol arall yna gallai hyn fod y lle i chi “hysbysebu”. Dim ond ychydig o fanylion yr eitem fyddai eu hangen arnoch chi, efallai llun a rhif ffôn i ddechrau. Unwaith eto, anfonwch y wybodaeth hon at baker.eames@virgin.net erbyn Hydref 16eg.