“Ceilidh y Jiwbilî “
Dydd Gwener 3ydd Mehefin: “Ceilidh y Jiwbilî” 7-11 y.h Neuadd Gymunedol Llanbedr
Ar ôl sawl blwyddyn o seibiant, rydym yn edrych ymlaen at gynnal “Ceilidh” yn y Neuadd Gymunedol. Rydym wedi llogi band Ceilidh Cymraeg proffesiynol, “Twmpathology”, sef band 4 offeryn profiadol gyda “galwr” fydd yn rhedeg y noson, felly gallwch edrych ymlaen at oriau o ddawnsio, chwerthin a llawer o hwyl! Bydd y Cyngor Cymuned yn sybsideiddio cost y band, felly y tâl mynediad (trwy docyn ymlaen llaw yn unig) fydd £5 y pen. Rydym wedi gwneud cais am drwydded alcohol, felly byddwn yn darparu gwin, cwrw a diodydd meddal, i gyd am dâl rhesymol. Fodd bynnag, os gwneir unrhyw elw o’r bar, bydd hyn yn cael ei rannu’n gyfartal rhwng yr elusen ffermio “The DPJ Foundation” a chronfa apêl Wcráin.
Cyfyngir y niferoedd i 60 felly fe’ch cynghorir i archebu tocynnau cyn gynted â phosibl. Gellir prynu tocynnau o’r bar yn Y Griffin, Llanbedr neu drwy ffonio / anfon neges destun at y Cynghorydd Jackie Holder: 07825210458