Casglwch eich coeden ganddon ni yn ddi-dâl
Cyngor Cymyned Llanbedr DCyn ymuno â chynllun uchelgeisiol i frwydro yn erbyn newid hinsawdd
Mae Cyngor Cymyned Llanbedr yn cymryd rhan yng nghynllun Fy Nghoeden, Ein Coedwig, sef prosiect
uchelgeisiol gan Lywodraeth Cymru a Coed Cadw a fydd yn cynnig coeden am ddim i bob cartref.
Mae [enw’ch sefydliad] yn un o 50 o ganolfannau ledled Cymru lle gall pobl ddod i gasglu eu coeden.
Bydd yr holl goed yn rhywogaethau brodorol a llydanddail a fydd yn tyfu yn goed maint bach i
ganolig, sy’n addas ar gyfer gerddi a gofodau llai, a bydd cyfarwyddiadau ar sut i’w plannu wedi’u
cynnwys hefyd. Wrth iddyn nhw aeddfedu, byddan nhw’n amsugno carbon, yn brwydro yn erbyn
effeithiau newid hinsawdd ac yn cefnogi bywyd gwyllt.
Bydd gwirfoddolwyr ar y safle yn gallu cynghori aelodau’r cyhoedd am y rhywogaethau sydd ar gael
drwy’r cynllun sydd fwyaf addas ar gyfer eu gofod a sut i ofalu am eu coeden.
Bydd y ganolfan ar agor i’r cyhoedd ar y diwrnodau canlynol:
Tachwedd 27ain
rhwng 10.00am a 2.00pm
A
Rhagfyr 11eg
rhwng 10.00am a 2.00pm
I gael rhagor o wybodaeth am y fenter, cysylltwch â Coed Cadw
Twitter:- @CoedCadw & @WGClimateChange
Facebook:- @CoedCadw & @Welshgovernment
#FyNghoedenEinCoedwig