[:en]
Clerk to the Council
The clerk to Llanbedr Community Council, Gwyn Davies, can be contacted by email using the contact form. It is requested that formal matters for council’s consideration are submitted via the Clerk to ensure proper procedures are followed.
Mr Gwyn Davies
Clerk to the Council
11 Maes Caenog
Clocaenog
Ruthin
LL15 2AU
email: ifandavies18@yahoo.co.uk
Phone numbers: 01824 750283 or 07887 955613
Your Councillors:

I am 65 years old. I moved to Tan-y-Bryn with my wife and eldest son in 1984. I worked as an abattoir manager in Wrexham for over 20 years. Both my sons went to Llanbedr school while my late wife was a governor when the school was last threatened with closure. I was lucky enough to be able to retire early, but to develop another interest I built a two bed extension our house! Subsequently over the last four years I have built another 2 houses on Tan-y-Bryn/Tan-y-Ffordd. I have been privileged to live in Llanbedr for over 30 years and hope to make some contribution to it remaining a wonderful place to live.
.[/iconbox_top]

Tim is a freelance theatre director and writer, working in both Welsh and English. He has lived in Llanbedr for seven years and is passionate about the improvement of village amenities.
[/iconbox_top]
Bob is a retired university principal lecturer in Statistics, Marketing, Small Business and Entrepreneurship. He also taught Maths at secondary and sixth form levels.
Bob and his wife have lived between Llanferres and Llanarmon-yn-Iâl for over 29 years. They have two daughters and three teenage grandsons.
He has been a Denbighshire County Councillor and has served on local Community Councils for over 21 years.
Bob is also on Llanfair Dyffryn Clwyd, Llanferres and Llandegla Community Councils. The main reason for standing in all these Communities was to develop a series of clusters, where BT is unlikely to establish superfast fibre broadband. This should allow these groups to pool Welsh Government grants for local solutions and thus to get all these Community Councils to work together.
He is also Vice Chair of the Conwy/ Denbighshire Area Committee of One Voice Wales. Bob is also enjoys sport on TV, especially Rugby, and is very keen quizzer.
[/iconbox_top]

My wife Rachel, daughter Hannah, and I moved to Llanbedr DC only quite recently. We fell in love with this beautiful place after having visited the area many times over the years and eventually decided to make the Big move. I previously worked for a local council for twenty-eight years within the Parks department, managing landscape and building renovation projects. I also have general building experience having had my own house renovating company. Both my wife and I are very keen to be involved and help as much as we can within the local community of this outstanding place
[/iconbox_top]

Ken has lived in Llanbedr for over 40 years, and is now retired. Throughout his working life, he was very active in the Labour movement. For several years, he was North Wales representative at the Labour Party Conference. He also represented Wales on the National Milk Council. Ken joined the Community Council through the Community Garden Scheme in Maes Derwen, and has been on the Council for three years.
[/iconbox_top]

Married to a local farmer and working at Llysfasi as an Agriculture lecturer, I have a strong interest in farming. I am here to listen to the views of the local community, and hopefully to help develop and enhance our local businesses and resources. Munchkins Committee (day care centre at Ysgol Llanbedr). Community Art Project, Website, Facebook, Twitter.
[/iconbox_top]

I have lived at Willowbank Cottage, between Llanbedr and Hirwaen, since 2007, and I became a community councillor in 2017. I have worked in Town and Country Planning since 2001. I hope to support village facilities and businesses to prosper and help our community remain an attractive and vital place to live.
[/iconbox_top]
[iconbox_top title=”Gruff Jones” icon=”User_2.png”]

I have lived in Maes Celyn, Llanbedr D.C with my wife since 2013 and enjoy bringing up my two young daughters and two energetic dogs in this wonderful part of the world. I was brought up in Ruthin, and moved back to the area after Univesity and a period living in Manchester and working in Huddersfield. I work for Jaguar Land Rover as a Launch Manager, based mainly in Speke, Merseyside but often commute to Coventry and Gaydon, Warwickshire to support project needs.
[/iconbox_top]

What do councillors do?
Councillors have three main components to their work:
- Decision making – Through meetings and attending committees with other elected members, councillors decide which activities to support, where money should be spent, what services should be delivered and what policies should be implemented.
- Monitoring – Councillors make sure that their decisions lead to efficient and effective services by keeping an eye on how well things are working.
- Getting involved locally – As local representatives, councillors have responsibilities towards their constituents and local organisations.
These responsibilities and duties often depend on what the councillor wants to achieve and how much time is available, and may include:
- Going to meetings of local organisations such as tenants’ associations.
- Going to meetings of bodies affecting the wider community.
- Taking up issues on behalf of members of the public.
- Running a surgery for residents to bring up issues.
- Meeting with individual residents in their own homes.
Attending a council meeting is the best way to find out what happens there. If you are interested in attending please give the Clerk a call to find out when the next meeting is taking place.
How much time does it take up?
Quite often councillors say that their duties occupy them for about three hours a week. Obviously there are some councillors who spend more time than this – and some less, but in the main, being a community or town councillor is an enjoyable way of contributing to your community, and helping to make it a better place to live and work.[:CY]Clerc y Cyngor
Gellir cysylltu â Gwyn Davies, clerc Cyngor Cymuned Llanbedr, drwy e-bost gan ddefnyddio’r ffurflen gyswllt. Er mwyn sicrhau fod y gweithdrefnau priodol yn cael eu dilyn, gofynnir i faterion ffurfiol at ystyriaeth y Cyngor gael eu cyflwyno drwy’r Clerc.
Mr Gwyn Davies
Clerc y Cyngor
11 Maes Caenog
Clocaenog
Rhuthun
LL15 2AU
e-bost: ifandavies18@yahoo.co.uk
Rhifau ffôn: 01824 750283 neu 07887 955613
Your Councillors:

Rwy’n 65 mlwydd oed. Dois i Dan-y-Bryn i fyw gyda’m gwraig a’m mab hynaf ym 1984. Bûm yn gweithio fel rheolwr lladd-dy yn Wrecsam am dros 20 mlynedd. Aeth fy meibion i Ysgol Llanbedr, ac roedd fy niweddar wraig yn llywodraethwr yno y tro diwethaf y bygythiwyd cau’r ysgol. Roeddwn ddigon ffodus i allu ymddeol yn gynnar, ond er mwyn meithrin diddordeb newydd, fe adeiladais estyniad dau lofft i’r tŷ! Rwyf wedi adeiladu dau dŷ arall wedi hynny yn Tan-y-Bryn/Tan-y-Ffordd. Mae’n fraint i mi gael byw yn Llanbedr ers dros 30 mlynedd, ac rwy’n gobeithio y bydd fy nghyfraniad i’n sicrhau y bydd y pentref yn parhau i fod yn lle gwych i fyw ynddo.
.[/iconbox_top]

Cyfarwyddwr theatr ac awdur yn gweithio ar ei liwt ei hun yw Tim. Mae’n ysgrifennu yng Nghymraeg a Saesneg. Mae’n byw yn Llanbedr ers wyth mlynedd, ac yn angerddol am wella mwynderau’r pentref.
[/iconbox_top]
Cyn ymddeol, roedd Bob yn brif ddarlithydd prifysgol mewn Ystadegau, Marchnata, Busnesau Bach ac Entrepreneuriaeth. Bu hefyd yn athro Mathemateg ar lefel uwchradd ac i chweched dosbarth.
Mae Bob a’i wraig yn byw rhwng Llanferres a Llanarmon-yn-Iâl ers dros 29 mlynedd. Mae ganddynt ddwy ferch a thri o wyrion yn eu harddegau.
Mae’n Gynghorydd Sir Ddinbych ac ar Gynghorau Cymuned lleol ers 21 mlynedd a mwy.
Mae hefyd ar Gynghorau Cymuned Llanfair Dyffryn Clwyd, Llanferres a Llandegla. Ei brif fwriad drwy wasanaethu’r holl gymunedau yma yw datblygu cyfres o glystyrau mewn mannau lle mae’n annhebygol y bydd BT yn sefydlu band eang ffibr cyflym. Dylai hyn alluogi’r holl Gynghorau Cymuned yma i gyd-weithio, drwy gronni grantiau a neilltuir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer dibenion lleol.
Yn ogystal, mae’n Is-gadeirydd ardaloedd Conwy a Sir Ddinbych ar Bwyllgor Un Llais Cymru.
Mae Bob yn mwynhau gwylio chwaraeon ar y teledu hefyd, yn enwedig rygbi, ac mae’n eiddgar iawn dros gymryd rhan mewn cwis.[/iconbox_top]

Dois i, fy ngwraig Rachel a’m merch Hannah i fyw i Lanbedr DC yn weddol ddiweddar. Fe wnaethom ddisgyn mewn cariad gyda’r lle hyfryd yma ar ôl ymweld â’r ardal lawer gwaith dros y blynyddoedd. Ac o’r diwedd, dyma wneud y penderfyniad mawr o ddod yma i fyw. Cyn hynny bûm i’n gweithio i gyngor lleol o fewn adran y Parciau am wyth mlynedd ar hugain. Roeddwn i’n rheoli tirwedd a
phrosiectau adnewyddu adeiladau. Mae gen i brofiad adeiladu cyffredinol hefyd, gan i mi fod berchen cwmni adnewyddu tai. Rydw i a’m gwraig yn awyddus iawn i gymryd rhan a helpu’r gymuned yn y lle arbennig hwn hyd eithaf ein gallu.
[/iconbox_top]

Mae Ken yn byw yn Llanbedr ers dros 40 mlynedd, ac wedi ymddeol erbyn hyn. Trwy gydol ei fywyd gwaith, bu’n weithgar iawn yn y mudiad Llafur. Am sawl blwyddyn, fo oedd
cynrychiolydd Gogledd Cymru Cynhadledd y Blaid Lafur. Roedd hefyd yn cynrychioli Cymru ar y Cyngor Llaeth Cenedlaethol. Ymunodd Ken â’r Cyngor Cymuned drwy’r Cynllun Gardd Gymunedol ym Maes Derwen, ac mae wedi bod ar y Cyngor am dair blynedd.
[/iconbox_top]

Gan fy mod yn briod â ffermwr lleol ac yn Ddarlithydd Amaethyddol yn Llysfasi, mae gennyf lawer o ddiddordeb mewn ffermio. Rwyf yma i wrando ar farn y gymuned, ac rwy’n gobeithio y byddaf o gymorth i ddatblygu a gwella busnesau ac adnoddau lleol. Munchkins Committee (canolfan gofal dydd yn Ysgol Llanbedr). Prosiect Celf Gymunedol, Safle We, Facebook, Twitter.
[/iconbox_top]

Rwy’n byw yn Willowbank Cottage, rhwng Llanbedr a Hirwaen, ers 2007, ac rwy’n gynghorydd cymuned ers 2017. Rwy’n gweithio i Cynllunio Gwlad a Thref ers 2001. Gobeithiaf allu cefnogi ffyniant cyfleusterau a busnesau’r pentref, a galluogi’n cymuned i barhau’n fan atyniadol a bywiog i fyw ynddi.[/iconbox_top]

Rwy’n gynghorydd mewn practis preifat yma yn Llanbedr DC, ac yma mae fy nghartref ers pum mlynedd. Fy mwriad fel aelod o’r Cyngor yw hybu gwell ymdeimlad o fod yn perthyn i gymuned ynddom ni i gyd. Rwy’n credu fod y posibilrwydd o gael Canolfan Gymunedol yn gyfle cyffrous, fel y mae darganfod gwahanol ffyrdd o gysylltu trwy gyfathrebu ar-lein.

Beth yw swydd Cynghorydd?
Mae tair elfen i waith Cynghorydd:
- Gwneud penderfyniadau – Drwy fynychu cyfarfodydd a phwyllgorau gydag aelodau etholedig eraill, mae Cynghorwyr yn penderfynu pa weithgareddau y dylid eu cefnogi, ar beth y dylid gwario arian, pa wasanaethau y dylid eu cyflenwi a pha bolisïau y dylid eu gweithredu.
- Monitro – Mae Cynghorwyr yn sicrhau bod eu penderfyniadau’n arwain at wasanaethau effeithlon ac effeithiol drwy gadw golwg ar ba mor dda y mae pethau’n gweithio.
- Cymryd rhan yn lleol – Gan eu bod yn cynrychioli’r gymuned, mae gan gynghorwyr ddyletswyddau tuag at eu hetholwyr ac at sefydliadau lleol.
Yn aml, mae’r cyfrifoldebau a’r dyletswyddau yma’n ddibynnol ar beth mae’r cynghorydd eisiau ei gyflawni a faint o amser sydd ganddo. Gallant gynnwys:
- Mynychu cyfarfodydd sefydliadau lleol megis cymdeithasau tenantiaid.
- Mynychu cyfarfodydd cyrff sy’n effeithio ar y gymuned ehangach.
- Ymgymryd â materion ar ran aelodau’r cyhoedd.
- Cynnal cymhorthfa lle gall preswylwyr godi materion.
- Cyfarfod â thrigolion yn eu cartrefi eu hunain.
Mynychu cyfarfod o’r cyngor yw’r ffordd orau i weld beth sy’n digwydd yno. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn mynychu cyfarfod, beth am ffonio’r Clerc er mwyn darganfod pryd fydd yr un nesaf?
Faint o amser mae’n gymryd?
Dywed cynghorwyr ran amlaf mai tua teirawr yr wythnos mae eu dyletswyddau’n cymryd. Mae rhai’n amlwg yn treulio mwy o amser na hyn, ac eraill yn treulio llai. Ond ar y cyfan, mae gwasanaethu eich cymuned drwy fod yn gynghorydd yn beth dymunol iawn, gan eich bod yn helpu i’w gwneud yn lle gwell i fyw a gweithio ynddi.[:]