Croeso i Wefan Lanbedr DC
Saif pentref Llanbedr DC yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, – lleoliad gwych ar gyfer preswylwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd.
Mae pentref Llanbedr yn gymuned lewyrchus. Ymhlith ei gyfleusterau mae Eglwys Sant Pedr, Tafarn y Griffin, Ysgol Gynradd Llanbedr ac mae Neuadd y Pentref sydd yn brysur iawn. Mae yna wasanaeth bws rheolaidd i Ruthun a’r Wyddgrug.
Dim ond milltir sydd rhwng Llanbedr DC a thref farchnad hanesyddol Rhuthun, gyda’i siopa a’i atyniadau lu, a’i hanes yn ymestyn yn ôl 700 mlynedd. Ymhlith y trefi hanesyddol eraill gerllaw mae Caer i’r dwyrain a harddwch Bwlch yr Oernant yn arwain i Langollen yn y de. A dim ond taith fer mewn car neu fws i’r gogledd y mae holl drefi arfordirol Gogledd Cymru.
Uwchlaw cyrion dwyreiniol y pentref, gwelir Bryniau Clwyd, a’r un uchaf un sef Moel Famau. Yma gallwch ymweld â Pharc Gwledig Loggerheads a bryngeyrydd o Oes yr Haearn, a cherdded nifer o lwybrau troed yr ardal, gan gynnwys llwybr enwog Clawdd Offa. Mae’r ardal hefyd yn boblogaidd gyda beicwyr egnïol, gan fod llawer o lwybrau heriol yn cychwyn oddi yma. Ond i’r rhai ohonom sydd â thueddiad mwy tawel, mae’r dafarn leol yn galw!
Edrychwch ar y dolenni amrywiol ar y bar llywio ar ben y dudalen ac fe welwch grynodeb o hanes Llanbedr DC, mapiau, pethau i’w gwneud, busnesau a grwpiau lleol, galeri, digwyddiadau a gweithgareddau, yn ogystal â newyddion lleol a gwybodaeth gyffredinol gan y cyngor cymuned.
Darllenwch ein newyddion diweddaraf a dilynwch ni ar Twitter @LlanbedrDC neu ymunwch â’n grŵp Facebook.